Sut i roi gwybod am newidiadau i'ch amgylchiadau

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, y ffordd gyflymaf o roi gwybod am newid mewn amgylchiadau yw trwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol a dewis ‘rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau’ o’r tab ‘Hafan’. Gallwch hefyd roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy gysylltu â llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Os ydych ar fudd-daliadau eraill, gan gynnwys Credyd Pensiwn, Lwfans Gofalwr neu Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), bydd hefyd angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau. 


Adolygiadau ceisiadau

Efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei wirio ar unrhyw adeg i weld a yw’ch amgylchiadau’n gyfredol. Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, bydd asiant adolygu ceisiadau yn cysylltu â chi drwy’ch dyddlyfr ar-lein a gallant hefyd eich helpu i ddiweddaru eich amgylchiadau.