Dywedwch wrthym os yw eich amgylchiadau'n newid

Ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu unrhyw fudd-daliadau eraill gan y llywodraeth?  Os bydd eich amgylchiadau’n newid, rhaid i chi ddweud wrthym cyn gynted ag y bydd hyn yn digwydd. Mae angen i’ch gwybodaeth fod yn gyfredol fel eich bod yn derbyn y swm cywir o gymorth ariannol ac nad ydych yn mynd i ddyled.

Mae’n bwysig eich bod yn gwirio nad yw’ch gwybodaeth wedi’i dyddio oherwydd gallech:

  • fod gyda hawl i gael mwy o gymorth ariannol gan y llywodraeth nag ydych yn ei sylweddoli
  • cael eich gordalu, sy’n golygu bod angen talu gordaliadau yn ôl
  • bod yn rhoi gwybodaeth ffug i ni. Efallai eich bod yn gwneud hyn yn ddiarwybod, ond gallai barhau i olygu y bydd yn rhaid i chi dalu cosb neu gael eich cymryd i’r llys. Gallai hefyd effeithio ar faint y gallwch wneud cais amdano yn y dyfodol.

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, mae’n rhan o’ch ‘ymrwymiad hawlydd‘ eich bod yn dweud wrthym am newid i’ch amgylchiadau.

Beth mae newid i’ch amgylchiadau yn ei olygu? Gofynnwch i’ch hun, a yw eich sefyllfa bersonol neu ariannol wedi newid ers i chi ddechrau derbyn budd-daliadau? Os felly, darganfyddwch fwy am beth allai newid mewn amgylchiadau feddwl a sut i roi gwybod am newid. Gallwch ddiweddaru’ch gwybodaeth unrhyw amser.