Os ydych yn poeni am eich sefyllfa ariannol, bod mewn dyled neu reoli eich incwm, mae gwahanol fathau o gymorth ar gael.
Cyngor ar ddyledion
Os ydych yn poeni am fod mewn dyled, gallwch gael cymorth a chyngor annibynnol gan y sefydliadau canlynol:
- Llinell Ddyled Genedlaethol
- Cyngor ar Bopeth
- Breathing Space (Debt Respite Scheme)
- PayPlan
- Community Money Advice
- StepChange Debt Charity
- Money Advisor Network
Cael help a chyngor gyda HelpwrArian
Os ydych yn poeni am sut i reoli’ch biliau, yna gallai Blaenoriaethwr Biliau HelpwrArian a theclynau eraill eich helpu. Os ydych eisoes yn methu taliadau i bobl y mae arnoch arian iddynt, yna gallwch gael gafael ar gymorth cyfrinachol am ddim lle rydych yn byw gan eu lleolwr cyngor ar ddyledion.
Newid sut rydych yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol
Os ydych ar Gredyd Cynhwysol ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol neu os ydych yn disgyn ar ei hôl hi ar eich rhent, gallwch chi neu’ch landlord ystyried gwneud cais am Drefniant Talu Amgen (APA).
Mae hyn yn newid sut rydych yn derbyn eich taliad a gallai fod yn ddefnyddiol yn dibynnu ar eich sefyllfa. Er enghraifft, gallwch:
- gael eich rhent wedi’i dalu’n syth i’ch landlord
- cael eich talu’n amlach nag unwaith y mis.
- cael taliad ar wahân i’ch partner.
Gwirio eich cyfrif ar-lein i weld os gallai’r pethau amgen hyn weithio i chi.