Mae newid mewn amgylchiadau yn golygu newid i’ch sefyllfa bersonol neu ariannol. Gall hyn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau.
Mae’r newidiadau mwyaf cyffredin y mae angen i chi ddweud wrth DWP amdanynt yn cynnwys:
- nifer y bobl sy’n byw yn eich cartref
- incwm unrhyw un yn eich cartref
- eich cynilion (gan gynnwys eich partner)
- dechrau neu orffen cwrs/addysg bellach
- eich costau tai, gan gynnwys rhent, ffioedd gwasanaeth, rhent tir, costau angori
Pwy sy’n byw yn eich cartref
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, rhaid i chi ddweud wrth DWP os:
- rydych yn byw gyda’ch gilydd fel cwpl (gweler y diffiniad isod)
- mae rhywun yn symud i mewn neu’n allan o’ch cartref
- mae gennych gyfrifoldeb am blentyn
- mae eich plentyn yn gadael cartref
- mae eich plentyn yn rhoi’r gorau i neu’n ailgychwyn addysg neu hyfforddiant, os ydynt yn 16 i 19 oed
- mae rhywun rydych yn byw gyda yn marw
- rydych chi neu’ch partner yn mynd i fod dramor (hyd yn oed gwyliau am benwythnos)
- mae eich cyfeiriad yn newid
- mae newid yn eich iechyd
- mae newid yn eich cyfrifoldebau gofalu
Enghraifft: Mae Sarah yn hawlio Credyd Cynhwysol a bydd yn cymryd seibiant byr dramor am dair noson. Ni fydd hyn yn effeithio ar ei chais, ond mae angen iddi ddiweddaru ei chais o hyd a rhoi gwybod i’r DWP.
Diffiniad o gwpl
Os ydych yn byw gyda’ch gilydd fel cwpl, bydd angen i chi a’ch partner wneud cais ar y cyd.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrif dau berson fel bod mewn cwpl os:
- rydych yn briod, yn bartneriaid sifil neu’n byw gyda’ch gilydd mewn perthynas hyd yn oed os yw’ch partner i ffwrdd rywfaint o’r amser (er enghraifft yn gweithio i ffwrdd.)
- rydych yn cefnogi eich gilydd yn ariannol neu’n cyfrannu ar y cyd tuag at redeg y cartref (er enghraifft bwyd, rhent a biliau)
- weithiau rydych yn byw gyda’ch gilydd ac yn gwneud penderfyniadau am eich bywydau gyda’ch gilydd
- ystyrir eich bod yn byw gyda’ch gilydd hyd yn oed os oes gennych fwy nag un eiddo (er enghraifft mae ffrindiau a theulu yn gwybod eich bod chi’n byw fel cwpl.)
Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â DWP trwy eich dyddlyfr UC.
Enghraifft: Mae Kim yn cael Credyd Cynhwysol. Mae hi mewn perthynas â Frank. Mae gan Frank swydd (TWE). Maent yn penderfynu byw gyda’i gilydd yn yr un cyfeiriad. Mae Frank yn rhoi rhybudd ar ei fflat ac yn mynd â’i eiddo i dŷ Kim. Mae nhw bellach yn byw gyda’i gilydd. Rhaid i Kim beidio â pharhau i hawlio Credyd Cynhwysol fel hawlydd sengl gan ei bod bellach yn byw gyda Frank, ac mae’n rhaid iddi ddweud wrth Gredyd Cynhwysol ei bod bellach yn byw gyda’i phartner.
Mae Kim yn gwneud hyn trwy fewngofnodi i’w chyfrif Credyd Cynhwysol a dewis “Rhoi gwybod am newid” ac yna dewis “Byw gyda phartner” fel y rheswm dros y newid.
Os oedd Kim yn dymuno parhau i hawlio Credyd Cynhwysol, rhaid iddi wneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol gyda Frank cyn gynted â phosibl a gofyn am god ymuno. Rhaid i Frank a Kim ddefnyddio’r cod ymuno i wneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol oherwydd bod yr hawl yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar gyfanswm incwm a chynilion y cartref, nid dim ond y person a hawliodd yn wreiddiol.
Enghraifft: Mae Mike i ffwrdd o gartref llawer oherwydd ei swydd. Mae’n byw gyda Jess sy’n hawlio Credyd Cynhwysol. Mae dillad Mike yn eu cwpwrdd dillad a’i frwsh dannedd yn eu hystafell ymolchi. Mae’n bwysig bod Jess yn dweud wrth DWP bod Mike yn byw gyda hi.
Enghraifft: Mae Dave ac Angie yn byw gyda’i gilydd ac yn hawlio Credyd Cynhwysol ar y cyd. Ond maent wedi penderfynu gwahanu. Mae hyn yn golygu y bydd angen i Dave ac Angie ddiweddaru eu cais ar y cyd i geisiadau unigol.
Dechrau neu orffen cwrs neu addysg bellach
Mae angen i chi ddweud wrth DWP os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol a bod rhywun yn eich cartref naill ai yn:
- dechrau cwrs neu addysg bellach
- dychwelyd adref, ar ôl gorffen cwrs neu addysg bellach
Bydd hyn yn eich helpu i osgoi gordaliadau.
Efallai y bydd gan eich darparwr cwrs opsiynau cyllido eraill i’ch helpu, fel benthyciadau neu grantiau myfyrwyr.
Enghraifft: Mae Priya newydd orffen yn y brifysgol ac yn symud yn ôl adref. Mae ei thad yn hawlio Credyd Cynhwysol, felly bydd angen iddo ddweud wrth DWP am y newid hwn mewn amgylchiadau.
Darganfyddwch fwy am gymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol wrth astudio
Eich incwm neu gostau byw os ydych yn weithiwr cyflogedig
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol a bod gennych swydd lle rydych yn cael eich talu’n uniongyrchol gan eich cyflogwr trwy eu cyflogres, ni fydd angen i chi ddweud wrth DWP os yw eich enillion yn newid. Mae hyn oherwydd bod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn defnyddio Talu Wrth Ennill (TWE) fel rhan o’u cyflogres, sy’n golygu bod eich enillion yn cael eu hadrodd mewn amser gwirioneddol i DWP.
Fodd bynnag, rhaid i chi ddweud wrth DWP os oes gennych chi, neu unrhyw un yn eich cartref, unrhyw incwm nad yw’n cael ei dalu’n uniongyrchol trwy gyflogres eich cyflogwr, e.e. gwaith contract neu weithio i chi’ch hun. Gall hyn gynnwys:
- eich incwm
- incwm eich partner
- unrhyw un sy’n cyfrannu at dreuliau eich cartref
Rhaid i chi hefyd ddweud wrthym os yw eich costau byw yn newid, er enghraifft mae eich rhent yn cynyddu neu’n gostwng.
Enghraifft: Mae Dave yn cael Credyd Cynhwysol ac yn byw gyda’i bartner. Mae’n derbyn codiad cyflog ond nid oes angen iddo ddweud wrth DWP oherwydd ei fod yn cael ei dalu trwy gyflogres ei gyflogwr. Chwe mis yn ddiweddarach mae ei bartner, Susan, yn penderfynu ymgymryd â rhywfaint o waith garddio achlysurol. Mae Susan yn cael ei thalu drwy arian parod, ond mae’n golygu bod incwm eu cartref wedi newid, felly mae angen i Dave nawr roi gwybod am hyn fel newid mewn amgylchiadau.
Eich incwm neu gostau byw os ydych yn gweithio i chi’ch hun
Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol os ydych yn gweithio i chi’ch hun. Rydym yn debygol o ystyried eich bod yn gweithio i chi’ch hun os:
- rydych yn rhedeg busnes, llawrydd neu isgontract, gan osod eich prisiau eich hun i wneud elw
- rydych yn penderfynu sut, pryd a ble rydych yn gweithio
- rydych yn gyfrifol am dalu eich treth a’ch yswiriant gwladol eich hun
- rydych yn berchen ar gwmni
- rydych yn gyfarwyddwr cwmni
- mae gennych reolaeth sylweddol ar gwmni
Os ydych yn cael eich ystyried yn gweithio i chi’ch hun ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, rhaid i chi roi gwybod am:
- enillion: faint wnaethoch chi ei ennill (gan gynnwys taliadau arian parod)
- treuliau: taliadau i mewn ac allan o’ch busnes e.e. eiddo, offer, teithio, yswiriant. Ni ddylai’r treuliau a hysbysir gynnwys treuliau personol e.e. prydau bwyd a theithio sydd ddim ar fusnes
- unrhyw arian a dalwyd gennych i mewn i bensiwn
Awgrymiadau ar gyfer rhoi gwybod am incwm a threuliau:
- Defnyddio cyfrif banc busnes ar wahân
- Gwirio beth allwch chi ac na allwch roi gwybod amdano
- Cadw cofnodion yn drefnus ac yn gyfredol
- Ffeilio derbynebau, datganiadau banc ac anfonebau
Darganfyddwch fwy am dreuliau os ydych yn hunangyflogedig
Mae DWP yn gwirio treuliau hawlwyr Credyd Cynhwysol, felly gwnewch yn siŵr bod y rhain yn gywir ac yn gyfredol.
Rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau
Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau, er enghraifft, os ydych yn:
- cau eich busnes neu ddod â hunangyflogaeth i ben
- dechrau gwaith cyflogedig fel eich prif gyflogaeth
- cael gostyngiad sylweddol a pharhaus mewn oriau neu enillion hunangyflogedig
- cael cynnydd sylweddol a pharhaus mewn oriau neu enillion hunangyflogedig
- cael enillion cyflogedig a hunangyflogedig
- cael problemau iechyd parhaus sy’n effeithio ar eich gallu i weithio.
Enghraifft: Mae Azeem yn cael Credyd Cynhwysol ac mae’n hunangyflogedig. Mae ei incwm wedi gostwng oherwydd gwerthiant gwael. Mae’n obeithiol y bydd yn cael ei sortio’n gyflym ond mae angen iddo wneud yn siŵr ei fod yn rhoi gwybod am ei enillion yn gywir bob mis ar gyfer y cyfnod asesu blaenorol.
Enghraifft: Mae Trevor yn yrrwr tacsi ond mae hefyd yn defnyddio’r tacsi fel car teuluol. Mae angen iddo wneud yn siŵr ei fod ond yn hawlio petrol a threuliau ar gyfer pan fydd yn gweithio.
Beth rydym yn ei ystyried
Pan fyddwn yn asesu eich hawl i Gredyd Cynhwysol, rydym yn ystyried arian yn eich cyfrif banc, arian parod a chynilion. Mae hyn yn cynnwys naill ai eich arian eich hun, neu arian sydd gennych ar y cyd â rhywun arall. Rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn eich arian a’ch cynilion.
Gall y swm o arian a chynilion sydd gennych chi (a’ch partner) effeithio:
- a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
- faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei dderbyn
Mae cael £16,000 neu fwy yn eich gwneud yn anghymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Mae’r holl arian, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych yn y DU a thramor yn cael eu hystyried, gan gynnwys:
- unrhyw gyfrifon cyfredol sydd gennych – gan gynnwys cyfrifon ar y cyd
- os ydych yn byw gyda phartner, unrhyw arian, cynilion a buddsoddiadau cyfunol
- Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
- cyfrifon cynilo – gan gynnwys cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu, cyfrifon undebau credyd, cyfrifon Cymorth i Gynilo, cyfrifon Swyddfa’r Post a Chynilo a Buddsoddi Cenedlaethol (NS&I)
- unrhyw eiddo neu fuddsoddiadau sydd gennych – gan gynnwys eiddo, bondiau premiwm, difidendau, cyfranddaliadau, asedau crypto neu gynilion gyda chwmnïau buddsoddi
- incwm pensiwn neu gyfandaliadau
- unrhyw etifeddiaeth a rennir
Bydd angen i chi hefyd ddiweddaru manylion eich cyfrif banc os byddwch yn symud i fanc gwahanol.
Enghraifft: Mae Jane ar Gredyd Cynhwysol. Mae perthynas yn marw, gan adael etifeddiaeth o £20,000 i Jane. Mae angen i Jane roi gwybod am hyn fel newid mewn amgylchiadau.
Enghraifft: Mae Dom yn hawlio Credyd Cynhwysol ac wedi anghofio bod ganddo £1,300 mewn bondiau premiwm. Mae angen iddo roi gwybod am y cynilion hyn fel newid mewn amgylchiadau.
Gordaliad Credyd Cynhwysol
Os ydych yn meddwl eich bod wedi derbyn gormod o arian ac wedi cael eich gordalu, bydd angen i chi roi gwybod i ni er mwyn i ni allu gwirio. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian sy’n ddyledus gennych. Po fwyaf rydych yn cael eich gordalu, yr hiraf y gallai gymryd i’w dalu’n ôl.
Gwneud cais am fudd-daliadau eraill
Os ydych yn derbyn budd-daliadau eraill, fel Credyd Pensiwn, Lwfans Gofalwr neu Daliadau Annibyniaeth Personol (PIP).
Darganfyddwch beth fydd angen i chi ei ddweud wrthym os bydd eich amgylchiadau’n newid
Mae cynnwys yr enghreifftiau ar y dudalen we hon at ddibenion eglurhaol yn unig.