Hysbysiad Preifatrwydd

Darperir y safle hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar y cyd â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), rhan o Swyddfa’r Cabinet.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a gyhoeddir ar y wefan hon ac unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir trwy gwcis.

Swyddfa’r Cabinet yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir fel rhan o ddarparu’r platfform sylfaenol fel cyfeiriadau IP.

Mae rheolwr data yn penderfynu sut a pham mae data personol yn cael ei brosesu. Am fwy o wybodaeth, darllenwch gofnod Swyddfa’r Cabinet yn y Gofrestr Gyhoeddus Diogelu Data.

Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham mae ei angen arnom

Mae GDS yn casglu rhywfaint o ddata yn awtomatig pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP), a manylion pa fersiwn o borwr gwe rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae GDS yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi mynediad i’r wefan i chi ac i fonitro defnydd o’r safle i nodi bygythiadau diogelwch.

Pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio Google Analytics 4 i gasglu’r wybodaeth ganlynol am sut rydych chi’n defnyddio’r wefan hon:

  • y tudalennau rydych chi’n ymweld â nhw ar Dywedwch wrth DWP
  • faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar bob tudalen Dywedwch wrth DWP
  • sut wnaethoch chi gyrraedd y safle
  • beth rydych chi’n clicio arno wrth ymweld â’r wefan
  • arwydd bras o’ch lleoliad gan ddefnyddio’ch cyfeiriad IP dienw.

Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy ei chasglu’n uniongyrchol trwy Google Analytics 4 (er enghraifft, eich enw neu gyfeiriad). Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich adnabod trwy wybodaeth ddadansoddol, ac ni fydd yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddol â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai’n nodi pwy ydych chi.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr ac i wneud gwelliannau.

Gweler y dudalen Cwcis am fwy o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bydd ei angen at y dibenion a nodir yn y ddogfen hon neu gyhyd ag y mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

Bydd GDS yn dileu data log mynediad ar ôl 120 diwrnod.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dileu data Google Analytics 4 ar ôl 12 mis.

Diogelu preifatrwydd plant

Nid yw’r wefan hon wedi’i chynllunio ar gyfer, nac wedi’i dargedu’n fwriadol at blant 13 oed neu’n iau. Nid yw GDS na’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu nac yn cadw data am unrhyw un o dan 13 oed yn fwriadol.

Lle mae eich data yn cael ei brosesu a’i gadw

Mae data sy’n gysylltiedig â’r platfform sylfaenol yn cael ei brosesu a’i gadw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Gellir trosglwyddo data a gesglir gan Google Analytics 4 y tu allan i’r AEE i’w brosesu.

Sut rydym yn diogelu eich data a’i gadw’n ddiogel

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw eich data yn ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad heb awdurdod neu ddatgelu eich data – er enghraifft, rydym yn diogelu eich data gan ddefnyddio lefelau amrywiol o amgryptio.

Rydym hefyd yn sicrhau bod unrhyw drydydd partïon yr ydym yn delio â nhw yn cadw’r holl ddata personol y maent yn ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i ofyn:

  • am wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
  • am gopi o’r data personol hwnnw
  • bod unrhyw beth anghywir yn eich data personol yn cael ei gywiro ar unwaith

Gallwch chi hefyd:

  • godi gwrthwynebiad ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
  • gofyn i’ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad mwyach
  • gofyn i brosesu eich data personol gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau

Os oes gennych unrhyw un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch â gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk.

Cysylltwch â ni neu gwnewch gŵyn

Cysylltwch â Thîm Preifatrwydd y GDS yn gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk os:

  • oes gennych gwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
  • ydych yn meddwl bod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gam-drin

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddogion Diogelu Data’r Swyddfa’r Cabinet ac yr Adran Gwaith a Phensiynau (DPO):

Data Protection Officer
DPO@cabinetoffice.gov.uk
Cabinet Office
70 Whitehall
London
SW1A 2AS

DWP Data Protection Team
Benton Park View 6
Room BP6001
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1ZX
data.protectionofficer@dwp.gov.uk

Mae’r DPOs yn darparu cyngor annibynnol a monitro ein defnydd o wybodaeth bersonol.

Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol.

Comisiynydd Gwybodaeth
casework@ico.org.uk
Ffôn: 0303 123 1113

Ffôn testun: 01625 545860

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Newidiadau i’r hysbysiad hwn

Gellir newid yr hysbysiad hwn o bryd i’w gilydd. Yn yr achos hwnnw, bydd y dyddiad y ‘diweddarwyd diwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data ar unwaith.

Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, bydd GDS a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.